Geirdaon

green leafed tree | coeden gwyrdd ei dail

David Thorpe,

Sylfaenydd a Chyfarwyddwr,

Canolfan Un Blaned

Mae Safon Un Blaned yn hollgynhwysol.

 

green and gray mountain under white clouds during daytime | mynydd gwyrdd a llwyd o dan gymylau gwyn yn ystod y dydd

Sebastian Wood,

Rheolwr-gyfarwyddwr,

Whitby Wood

Nid wyf yn adnabod unrhyw arweinwyr busnes o unrhyw fath sydd heb bryderu'n fawr am faterion newid yn yr hinsawdd, sydd ddim yn gwybod bod rhaid iddynt weithredu - a'u bod yn gallu gweithredu - a bod angen llywodraethu da a safonau da arnom y gallwn ymddiried ynddynt fel y gallwn fod yn atebol a chyflawni beth y dywedwn ein bod am ei gyflawni.

Mae gennym her enfawr, anferthol ac addasol. Nid oes rheolau ar gyfer hyn ac os oes rhaid cael Safon - ac mae rhaid - i'n harwain ar hyd y daith a'n hysbysu, rhaid iddi fod yn gyfannol ac yn addasol. Mae gennym her addasol a (mae'r Safon yn rhoi) rheolau addasol. Dim mwy o wyrddgalchu - rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb.

Yn siarad yn COP26 11eg Tachwedd 2021

school of fish in body of water | haig o bysgod mewn dŵr
Profile Image of Jaco Marais

Jaco Marais,

Cyfarwyddwr a Phartner Creadigol,

The Good Governance Institute

Oni fyddech chi'n cysgu'n well, yn teimlo'n well, yn cyflawni'n well, pe baech yn gallu gwybod bod eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth go iawn? Dwi'n gwybod y byddwn i. Dyma pam rydym wedi cyflwyno Safon Un Blaned heddiw.

Yn siarad yn COP26 11eg Tachwedd 2021

Andrea Lewis,

Dirprwy Arweinydd,

Cyngor Abertawe

Mae gennym hanes o wneud yn dda, ond mae'n hanfodol bwysig cael dadansoddiad annibynnol. Fel nad ydym yn gwirio'n gwaith ein hunain. Dyma pam rydym wedi cofrestru ar gyfer Safon Un Blaned a dyna pam mae mor bwysig i ni. Mae'n bwysig iawn bod y Safon yn mesur camau gweithredu ecolegol a hinsoddol, yn wahanol i safonau eraill sy'n dueddol o ganolbwyntio mwy ar garbon.

Mae'r ymrwymiadau'n cysylltu i Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)...mae ein holl bolisïau a strategaethau yn integrol ac yn rhan annatod o Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol gyda phob penderfyniad a wnawn, ac rydym yn gwybod bod hyn yn bwysig iawn ac wedi'i alinio i'r ymagwedd Un Safon.

Ceir hefyd y fantais o ddysgu a rennir. Os oes gennym un sefydliad yn adolygu ac yn dadansoddi ein gwaith yn annibynnol, mae yna fudd pendant o rannu dysgu ac arfer da sy'n digwydd mewn awdurdodau lleol a sefydliadau eraill a gallwn fanteisio'n barhaus ar hynny.

Dwi'n falch o gael bod yma heddiw yn cefnogi'r Safon Un Blaned. Bydd hyn yn helpu gyda'n camau gweithredu a deilliannau. Mae bendant y peth cywir i ni ei wneud. Oes, mae gennym hanes da ond mae llawer mwy o waith i'w wneud o ran ymgysylltu gyda'r cyhoedd a sicrhau eu bod yn rhan o'r daith gyda ni. Fel Cyngor, fedrwn ni ddim cyflawni'r nodau hyn ar ein pen ein hunain. Rhaid i ni wneud hyn gyda'n gilydd.

Yn siarad yn COP26 11eg Tachwedd 2021

Dr Ben Reynolds,

Cyfarwyddwr,

Urban Foundry Ltd

Ceir llawer o fanylion ac mae angen i ni wneud yn well gyda'r stwff yma, ni all hyd yn oed y rhai ohonom sy'n teimlo ein bod yn gwneud yn iawn fod yn hunanfodlon.

Ceir peth gorgyffwrdd gyda BCorp, sy'n holi cwestiynau am y materion hyn, ond mae hyn yn rhoi mwy o fanylion ac yn rhoi mwy o gymorth ar hyd y daith. Mae BCorp yn rhoi enghreifftiau/templedi, ond nid yr un faint o fanylion.

Andrew Williams,

Rheolwr Technegol ac Amgylcheddol,

Brecon Carreg

Mae'r safon yn cynnig ffordd newydd o feddwl heb wyrddgalchu.

Mae cysyniad Safon Un Blaned yn rhagorol ac yn wirioneddol herio achrediadau confensiynol megis ISO 14001, fodd bynnag, ceir mwy o bwyslais ar ecoleg, bioamrywiaeth a chynaladwyedd. Gan ystyried digwyddiadau diweddar yr adroddwyd amdanynt yn y cyfryngau, dwi'n wirioneddol gredu bod hyn yn ffordd ffres ac arloesol o feddwl a dyma sut mae angen i fusnesau a sefydliadau addasu. Mae'r safon wedi'i rhannu'n glir yn adrannau hawdd eu trin.

Mae hyd y safon yn fwy na digon, yn seiliedig ar safonau eraill rwyf wedi dod ar eu traws ac yn esbonio'n glir sut gellir bodloni'r safon. Rhoddir pwyslais da ar gynnwys pawb o fewn y sefydliad wrth helpu i gyflawni nodau'r safon, sy'n hanfodol i'w llwyddiant o fewn sefydliad. Y pwynt gwerthu allweddol yw'r weithred o lunio llwybr llwyddo i'w ddilyn, a fyddai'n helpu i gael pobl i gymryd rhan a theimlo fod y llwybr llwyddo yn perthyn iddyn nhw. 

Mae nifer o bynciau'r safon yn cyd-fynd gyda llawer o'r hyn sy'n cael ei adrodd yn y cyfryngau ynghylch ein planed a'r hyn mae angen i ni ei wneud i amddiffyn natur a sicrhau bod gennym blaned sy'n addas i genedlaethau'r dyfodol fyw ynddi. Rydym yn aml yn clywed gan wleidyddion na fyddwn, wedi'r pandemig, yn mynd yn ôl i fusnes fel arfer, felly rwy'n gobeithio bod LlCC yn benodol yn cefnogi ac yn hybu rhoi'r safon ar waith. Dwi'n credu ei bod yn canolbwyntio ar nifer o sylwadau maent yn eu gwneud ynghylch adferiad gwyrdd ac yn canolbwyntio ar leihau ôl troed carbon a'r economi ddi-garbon.

Eleri Morgan,

Rheolwr y Brand,

Brecon Carreg

Y pwynt gwerthu allweddol i mi yw'r weithred o lunio llwybr llwyddo i'w ddilyn. Nid yw hyn yn rhywbeth rwyf wedi'i weld yn unman arall ac mae'n rhoi tawelwch meddwl i mi y bydd gennym nodau clir y gellir gweithredu arnynt i gyflawni yn ôl amserlen bendant. Fel y gallwch ei ddychmygu, heb yr amserlen byddai'n hawdd iawn blaenoriaethu prosiectau eraill. 

Dwi'n credu ei fod yn syniad gwych. Gall 'lleihau eich ôl troed eco' eich llethu gan faint y gwaith, ond mae'r safon yn cynnig amserlen a chyfres o nodau i helpu sefydliadau i wneud cynnydd go iawn.

I gael y Safon Un Blaned

Cwblhewch y ffurflen isod