Andrew Williams,

Rheolwr Technegol ac Amgylcheddol,

Brecon Carreg

Mae'r safon yn cynnig ffordd newydd o feddwl heb wyrddgalchu.

Mae cysyniad Safon Un Blaned yn rhagorol ac yn wirioneddol herio achrediadau confensiynol megis ISO 14001, fodd bynnag, ceir mwy o bwyslais ar ecoleg, bioamrywiaeth a chynaladwyedd. Gan ystyried digwyddiadau diweddar yr adroddwyd amdanynt yn y cyfryngau, dwi'n wirioneddol gredu bod hyn yn ffordd ffres ac arloesol o feddwl a dyma sut mae angen i fusnesau a sefydliadau addasu. Mae'r safon wedi'i rhannu'n glir yn adrannau hawdd eu trin.

Mae hyd y safon yn fwy na digon, yn seiliedig ar safonau eraill rwyf wedi dod ar eu traws ac yn esbonio'n glir sut gellir bodloni'r safon. Rhoddir pwyslais da ar gynnwys pawb o fewn y sefydliad wrth helpu i gyflawni nodau'r safon, sy'n hanfodol i'w llwyddiant o fewn sefydliad. Y pwynt gwerthu allweddol yw'r weithred o lunio llwybr llwyddo i'w ddilyn, a fyddai'n helpu i gael pobl i gymryd rhan a theimlo fod y llwybr llwyddo yn perthyn iddyn nhw. 

Mae nifer o bynciau'r safon yn cyd-fynd gyda llawer o'r hyn sy'n cael ei adrodd yn y cyfryngau ynghylch ein planed a'r hyn mae angen i ni ei wneud i amddiffyn natur a sicrhau bod gennym blaned sy'n addas i genedlaethau'r dyfodol fyw ynddi. Rydym yn aml yn clywed gan wleidyddion na fyddwn, wedi'r pandemig, yn mynd yn ôl i fusnes fel arfer, felly rwy'n gobeithio bod LlCC yn benodol yn cefnogi ac yn hybu rhoi'r safon ar waith. Dwi'n credu ei bod yn canolbwyntio ar nifer o sylwadau maent yn eu gwneud ynghylch adferiad gwyrdd ac yn canolbwyntio ar leihau ôl troed carbon a'r economi ddi-garbon.

I gael y Safon Un Blaned

Cwblhewch y ffurflen isod